Dy heddwch Ior a gwel'd dy wedd

(Y Cartref dedwydd)
1,2,3,(4,6);   1,3,2,5.
Dy heddwch Ior, a gwel'd dy wedd,
Yw'm cysur mwyaf hyd y bedd;
  Ond gwell fydd im'
      gartrefu'n llon,
  Yn Nef y nefoedd ger ei fron.

Os hyfryd yw mewn anial wlad,
Gael trem o bell
    ar dŷ fy Nhad;
  Hyfrytach fydd
      yn llys y nef,
  Gymdeithas agos hoff âg Ef.

Os hoff yw bod o fewn dy dŷ, 
Mae pleser gwell
    yn d'eglwys fry; 
  Cawn yma ddafnau melus iawn,
  Ond yno mor gorfoledd llawn.

Y gwasgaredig deulu'n nghyd
A dd'ont o
    gonglau pella'n byd;
  Mor llon fydd cwrdd
      ar ben y daith,
  Tu draw holl groesau'r anial maith. [*]

O am gael uno gyda'r llu
O frodyr a chyfeillion fry,
  Ar ddelw hardd
      eu Prynwr mawr,
  Mewn gwisgoedd fel goleuni'r wawr!

Cawn yno drigo yn gytun,
Yn nghwmni'r dwyfol Dri yn Un;
  A gwir fwynhau y Nefol wledd,
  Heb ddim i dori ar ein hedd.        [*]

             - - - - -

Dy heddwch, IOR, a gwel'd dy wedd,
Yw'm cysur mwyaf hyd y bedd;
  Ond gwell fydd im'
      gartrefu'n llon 
  Yn nef y nefoedd ger dy fron.

Os hoff yw bod o fewn dy Dŷ,
Mae pleser gwell
    yn d'Eglwys Dy:
  Dafnau gorfoledd yma gawn,
  Cawn yno fôr gorfoledd llawn.

Os hyfryd yw, mewn anial wlad,
Gael trem o bell
    ar Dŷ fy Nhad;
  Hyfrytach fydd
      yn llys y nef
  Gymdeithas agos, hoff, âg Ef.

Hiraethu 'rwyf am gael fy nwyn
Ar aden gref rhyw angel mwyn,
  Ar frys i blith y siriol lu
  O frodyr a chwiorydd fry;

Rhai sydd â mawl fyth ar eu min,
Heb unrhyw bla na phechod blin,
  Ar ddelw hardd
      eu Prynwr mawr
  Mewn gwisgoedd fel goleuni'r wawr.
David Davis 1745-1827
[*] Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Georg Joseph 1630-66)
Elisey (<1876)
Mamre (G F Handel 1685-1759)

gwelir:
  Hiraethu'r wyf am gael fy nwyn
  Mae meddwl am y nefol fro

(The happy Home)
 
Thy peace Lord, and to see thy countenance,
Are my greatest comfort until the grave;
  But better shall be for me
      cheerfully to make my home,
  In the Heaven of heavens before him.

If delightful it is in a desert land,
To get a sight from afar
    of my Father's house;
  More delightful shall be
      in the court of heaven,
  Close, lovely fellowship with Him.

If lovely it is to be within thy house,
There is better pleasure
    in thy church above;
  We may get here very sweet drops,
  But there such full jubilation.

The delivered family together
Shall come from
    the most distant corners of the world;
  So cheerful it will be to meet
      at the end of the journey,
  Beyond all the crosses of the vast desert.

O to get to join with the throng
Of brothers and friends above,
  In the beautiful image
      of their great Redeemer,
  In garments like the light of the dawn!

There we shall get to dwell together,
In the company of the divine Three in One;
  And truly enjoy the Heavenly feast,
  Without anything to break upon our peace.

                 - - - - -

Thy peace LORD, and to see thy countenance,
Are my greatest comfort until the grave;
  But better shall be for me
      cheerfully to make my home,
  In the Heaven of heavens before Thee.

If lovely it is to be within thy house,
There is better pleasure
    in Thy Church above;
  Drops of jubilation here we may get,
  There we may get a full sea of jubilation.

If delightful it is, in a desert land,
To get a sight from afar
    of my Father's house;
  More delightful shall be
      in the court of heaven,
  Close, lovely fellowship with Him.

Longing I am to get borne
On the strong wings of some gently angel,
  Quickly amongst the cheerful host
  Of brothers and sisters above;

Those who have praise forever on their lip,
Without any plague nor grievous sin,
  In the beautiful image
      of their great Redeemer
  In garments like the light of the dawn.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~